Cylch Cinio Glannau Llwchwr

Cylch Cinio Glannau Llwchwr Wedi ei sefydlu ers 1973

Croeso

Croeso i wefan Cylch Cinio Glannau Llwchwr sy’n gymdeithas wirfoddol yn gwasanaethu cymunedau Pontarddulais, Yr Hendy, Casllwchwr, Penllergaer, Pengelli,Llangennech, Llanedi a Phontlliw. Prif amcan y gymdeithas yw hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg mewn awyrgylch gymdeithasol ac anffurfiol.


Serch taw ciniawa gyda’n gilydd yn fisol o Fedi i Ebrill yng nghwmni siaradwr gwadd yw ein prif weithgaredd rydym yn y gorffennol wedi cynnal Nosweithiau Llawen i godi arian i elusenau. Mae’r rhain wedi cynnwys nid yn unig rhai lleol ond hefyd cenedlaethol fel Canolfan Nant Gwrtheyrn a’r gadair i Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw.



Gafel y Cylch a wnaethpwyd gan Griff Williams a'r blwch gan Ben Herbert - 1974.